Y Nod

Nod y cynllun preswyl yw ymchwilio i botensial creu gwaith celf cyfranogol, o fewn cymuned ddiwylliannol amrywiol o gymeriadau ffuglennol. Mae rhai cymeriadau yng Nghwmderi’n mynegi eu hunain yn greadigol drwy ddefnyddio’u lleisiau neu eu dwylo, a dangosir hynny’n effeithiol yn eu cydweithrediad wrth redeg gorsaf radio. Prin, os erioed, y mae pobl o unrhyw opera sebon ym Mhrydain wedi dod ar draws celf gyfoes.

Dros gyfnod o naw mis, byddaf yn ceisio cynnwys cymeriadau Pobol y Cwm yn y broses o greu gwaith celf, un sy’n mynegi’r modd y mae’r cymeriadau’n ymgysylltu â’r byd o’u cwmpas. Gall y gwaith celf a gynhyrchir fod ar ffurf un arteffact materol neu waith amlgyfrwng cyfansawdd. Bydd y cyfnod preswyl yn dechrau gyda chyfres o weithgareddau ymgysylltu fel dull o ddatblygu geirfa gyffredin ac er mwyn canfod themâu sy’n bwysig i’r cymeriadau, gan ddwyn ysbrydoliaeth o brosiectau llwyddiannus Elbow Room yn ysgogi dadleuon cyhoeddus ar faterion dyneiddiol.

Bydd y gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i symbylu cymeriadau’r Cwm i ystyried gwahanol ffyrdd o fynd ati i greu a darllen gweithiau celf cyfoes. Defnyddir gweithiau celf mawr o arwyddocâd rhyngwladol fel pwyntiau cyfeirio i lywio’r cymeriadau ar y daith gyfranogol. Gwahoddir arbenigwyr dehongli (o’r Amgueddfa Genedlaethol, efallai) i ddadlau dros y gweithiau celf y maent yn eu cydnabod fel rhai o arwyddocâd cyfoes.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s